Select Page

Rheoli Amser Gwirfoddolwyr

Y ffordd hawdd i gofnodi ac adrodd yn ôl ar yr amser anhygoel a roddir i’n cymunedau ni drwy wirfoddoli. Mae VolHours yn ei gwneud yn hawdd i wirfoddolwyr gofnodi eu horiau ac i dimau ac elusennau gadw cofnod o’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud.

Rydych Chi’n Rhoi Eich Amser

Cadwch Gofnod Ohono

Gwirfoddolwyr fel chi yw asgwrn cefn cymunedau cryf ac iach. Heb eich ymrwymiad chi i helpu a chefnogi pobl o’ch cwmpas, byddai gan lawer o’ch cymdogion lai yn eu bywydau. Cafodd Volhours ei greu gan wirfoddolwyr fel chi oedd angen ffordd gyflym a hawdd o gofnodi eu heffaith.

Mae Volhours yn eich helpu chi a phob gwirfoddolwr arall i gadw cofnod o’r budd rydyn ni i gyd yn ei gynnig yn ein cymunedau. Rydych chi’n rhoi’n anhunanol i elusen neu dîm. Rydych chi’n codi’n gynnar yn y bore ac yn dod adref yn ôl yn hwyr fel bod eraill yn gallu cyflawni mwy. Cafodd Volhours ei greu er mwyn eich helpu chi i gofnodi a rhannu’r ymrwymiad hwnnw gyda’r grwpiau rydych chi’n gwirfoddoli â nhw.

Dim angen llenwi taflenni amser ar ddiwedd yr wythnos

 

Cofnodi eich amser yn hwylus mewn ychydig eiliadau

 

Rheolaeth Ganolog

Dim mwy o bapurau coll neu lofnodion i’w casglu. Cewch adroddiadau ar unwaith yn dangos cofnodion am sut rydych chi’n effeithio ar eich cymuned leol.

Cofnodi Amser

Mae’r gwirfoddolwyr yn cofnodi eu hamser yn hwylus gan ddefnyddio ap symudol ar borthol ar-lein. Wrth symud o gwmpas y lle, gyda dim ond tap neu ddau, gall eich gwirfodolwyr adrodd yn ôl i chi.

Storio’n Ddiogel

Mae’r wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ar weinydd yn y DU ac mae’r holl ddata’n cael eu dal gan gydymffurfio â phrotocolau’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae pob defnyddiwr yn rhoi ei ganiatâd i rannu ei ddata gyda’r grwpiau o’u dewis yn unig.

Cofnodi Ar Unwaith

Cyfle i gael adroddiadau diweddar pan rydych chi eu heisiau. Adborth hwylus i gyllidwyr neu ymddiriedolwyr ar nifer yr oriau a’r effaith mae gwirfoddoli’n ei chael ar unigolion drwy gasglu data ansoddol.

Hawdd Lawrlwytho

Anfon y data’n hwylus i systemau rheoli eraill fel CRM neu feddalwedd taenlenni drwy ddim ond lawrlwytho’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i’w defnyddio mewn systemau eraill.

Mae miloedd o oriau gwirfoddol yn mynd ar goll bob dydd

Does neb wir yn gwybod am yr effaith mae gwirfoddoli’n ei chael ar ein cymunedau ni. Nid yw’r dulliau presennol o gasglu’r wybodaeth yma’n gweithio yn ein bywydau modern ni. Cafodd Volhours ei greu gan wirfoddolwyr er mwyn cofnodi eu horiau’n hawdd ac yn ddibynadwy. Mae’r wybodaeth yma’n cael ei rhannu ar unwaith gyda’r elusennau a’r timau o’u dewis.

Dim mwy o waith papur ar goll

 

Dim angen taflenni a graffiau Excel cymhleth

 

Timau, Grwpiau, Elusennau

Gwneud pethau’n haws i’ch gwirfoddolwyr a’ch gweinyddwyr chi